Roedd yna gryn gyffro yn Neuadd Dewi Sant, Caerdydd nos Sul a hynny wrth i seremoni Gwobrau BAFTA Cymru gael ei chynnal, wyneb yn wyneb, unwaith eto wedi’r pandemig.
Mae’r digwyddiad yn gwobrwyo goreuon y byd ffilm a theledu ac ymhlith y cynyrchiadau a gafodd y mwyaf o enwebiadau eleni roedd Dream Horse, In My Skin, CODA, Grav, Mincemeat (On the Edge) a The Pact.
Chris Roberts a enillodd y wobr am y cyflwynydd gorau a Bwyd Epic Chrisenillodd y wobr am y rhaglen adloniant orau.
Ysgol Ni: Y Moelwyna enillodd y wobr am y gyfres ffeithiol orau ac enillwyd y wobr am y rhaglen ddogfen orau gan Y Parchedig Emyr Ddrwg.
Grav a enillodd y wobr am y ffilm nodwedd orau a Hei Hanes! oedd enillydd y rhaglen blant orau.
Yn ystod y noson roedd yna egwyl i gofio am y rhai o fyd y ffilm a theledu sydd wedi ein gadael yn ystod y flwyddyn. Yn eu plith – Eddie Butler, Dyfrig Topper Evans, Dai Jones, Mei Jones a John Stuart Roberts.
Cyflwynydd y noson yw Alex Jones a meddai: ‘Nid yn unig y mae’n fraint ac anrhydedd i fod yn cyflwyno Gwobrau BAFTA Cymru unwaith eto, ond mae’r ffaith ei bod yn ôl fel seremoni fyw eleni mor gyffrous.
“Does dim awyrgylch gwell i gydnabod a dathlu’r holl raglenni teledu a ffilmiau rhyfeddol sy’n cael eu cynhyrchu yng Nghymru.”